Eich Cartref
Gall gwneud eich taliadau rhent neu forgais olygu’r gwahaniaeth rhwng cadw’ch cartref a’i golli.
Os ydych ar fin sefydlu cartref, mae’n werth meddwl yn ofalus am yr hyn y gallwch ei fforddio gyntaf.
Trosolwg
Yn ogystal â gweithio allan faint o rent neu forgais y gallwch ei fforddio, cofiwch feddwl am y costau ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Treth Cyngor
- Trwydded deledu
- Nwy, trydan, dŵr a thanwydd arall
- Yswiriant
- Gwaith trwsio neu addurno
Cofiwch y gallwch ddefnyddio’r cynllunydd cyllideb er mwyn sicrhau’ch bod ar y trywydd iawn.
Pan rydych yn eich cartref, mae’n bwysig sicrhau bod yr arian sydd gennych yn dod i mewn yn ddigon ar gyfer yr holl filiau gyda digon dros ben i fyw. Os ydych yn cael problemau’n talu’ch rhent neu forgais, dylech geisio cyngor yn syth.
Cysylltiadau Defnyddiol
- Gwybodaeth am rhentu cartref
- Gwybodaeth am brynu cartref
- Canolfan Cyngor ar Bopeth
- Shelter Cymru